Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:
- beth ddylai'r meini prawf cymhwysedd fod ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref,
- a ddylai’r dull sy'n seiliedig ar ardal, o fynd i'r afael â thlodi tanwydd (Arbed), barhau,
- pa gymorth penodol y dylid ei ddarparu i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd gwledig?
- sut y gellir annog landlordiaid y sector preifat i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith tenantiaid?
- sut y gall unrhyw gynllun(iau) olynol wella ar yr ystyriaethau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol?
Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cyd-fynd yn well â'i hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru?